Mark Drakeford AS
 Y Prif Weinidog
 Llywodraeth Cymru

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
 —
 Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
 Senedd Cymru
 Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN
 SeneddDiwylliant@senedd.cymru
 senedd.cymru/SeneddDiwylliant
 0300 200 6565 
 —
 Welsh Parliament
 Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN
 SeneddCulture@senedd.wales 
 senedd.wales/SeneddCulture
 0300 200 6565
 

 

 

 


7 Mehefin 2023

Ynghylch: Mynd ar drywydd gwaith craffu ar gysylltiadau rhyngwladol

 

Annwyl Mark,

Ysgrifennaf atoch yn dilyn ein gwaith craffu blynyddol ar waith Llywodraeth Cymru ym maes cysylltiadau rhyngwladol ddydd Mercher, 10 Mai 2023, . Hoffai’r Pwyllgor fynegi ei ddiolchgarwch am yr amser a gymeroch i rannu’r gwaith sydd wedi bod yn mynd r ac am eich llythyr ar 24 May 2023 yn rhoi rhagor o wybodaeth hagddo dros y flwyddyn ddiwethaf gyda ni, a’ch uchelgeisiau ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol yn y dyfodol. Yn ystod y cyfarfod, cytunwyd i fynd ar drywydd nifer o faterion a nodir isod.

Llythyr at y Gwir Anrhydeddus James Cleverley AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, y Gymanwlad a Datblygu

Yn ystod y cyfarfod, buom yn trafod eich bod wedi ysgrifennu’n ddiweddar at y Gwir Anrhydeddus James Cleverley AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, y Gymanwlad a Datblygu. Roedd hynn mewn cysylltiad â’i gyfarwyddiadau i lysgenadaethau Prydain y dylai cynrychiolydd o Lywodraeth y DU fod yn bresennol hefyd mewn cyfarfodydd â Llywodraeth Cymru fel rhan o ymweliad tramor. Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech rannu copi o’r llythyr hwnnw, ac unrhyw ymateb a gawsoch.

Memoranda Cyd-ddealltwriaeth

Buom hefyd yn trafod bod Llywodraeth Cymru yn y broses o gytuno ar femoranda newydd gyda Fflandrys a Baden-Württemberg. Byddem yn croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau, gan gynnwys amserlen ar gyfer rhoi’r memoranda hyn ar waith. Unwaith y cytunir ar y memoranda hyn, byddem yn ddiolchgar o gael copïau i'n helpu i ddeall y cysylltiadau sy'n cael eu datblygu i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Ryngwladol.

Cymru yng Nghanada

Yn ogystal, buom yn trafod lansiad menter Blwyddyn Cymru yn Ffrainc a’r gweithgareddau arfaethedig o amgylch Cwpan Rygbi’r Byd yn yr hydref. Cydnabu'r Aelodau bwysigrwydd digwyddiadau chwaraeon mawr fel llwyfan diplomyddol ar gyfer cynyddu presenoldeb a dylanwad Cymru yn fyd-eang. Wrth i fenter Blwyddyn Cymru yng Nghanada ddod i ben, byddai’r Pwyllgor yn croesawu crynodeb o weithgareddau’r flwyddyn, yn amlinellu llwyddiannau a chanlyniadau allweddol a sut mae’r rhain yn cyd-fynd â’r Strategaeth Ryngwladol. Yn benodol, byddai'r Pwyllgor hefyd yn awyddus i ddeall unrhyw wersi a ddysgwyd o lwyddiant cymharol gweithgareddau'r flwyddyn flaenorol a sut mae'r rhain wedi llywio newidiadau i’r rhaglen Blwyddyn Cymru yn Ffrainc.

Ieithoedd brodorol

Byddwch yn ymwybodol bod ieithoedd yn faes diddordeb arbennig i'r Pwyllgor hwn. Yn dilyn diwedd y fenter Blwyddyn Cymru yng Nghanada, a fyddech cystal â rhannu unrhyw wybodaeth â ni am unrhyw waith a wnaed yn benodol yn y maes hwn, gan gynnwys gwaith ynghylch ieithoedd brodorol.

Blaenoriaethau ar gyfer 2023

Rydych wedi siarad yn helaeth am eich gwaith ar y cyd ag Undeb Rygbi Cymru i hyrwyddo Cymru yn y twrnamaint diwethaf yn Japan yn 2019. Yng ngoleuni’r honiadau diweddar, a Chwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc eleni, a yw perthynas Llywodraeth Cymru ag Undeb Rygbi Cymru i gyflawni ei huchelgeisiau rhyngwladol wedi newid os gwelwch yn dda, a sut?

Cysylltiadau Cymru a’r UE

A allech ddweud wrthym pa gynlluniau sydd ar gyfer dyfodol rôl cynrychiolydd Llywodraeth Cymru yn Ewrop, os o gwbl.

Adroddiad Llywodraeth Cymru ar weithgareddau rhyngwladol

Yn olaf, mae gennym nifer o gwestiynau mewn perthynas ag adroddiadau Llywodraeth Cymru ar ei gweithgareddau rhyngwladol, fel a ganlyn:

§    A fyddech cystal â rhoi barn Llywodraeth Cymru am gynnydd yn erbyn ei Strategaeth Ryngwladol.

§    Eglurwch sut caiff gweithgareddau yn y wlad a theithiau masnach eu cydgysylltu â chenadaethau a llysgenadaethau Llywodraeth y DU i sicrhau gwerth am arian.

§    Mae gwybodaeth y Gyllideb Ddrafft a ddarparwyd ynghylch y swyddfeydd tramor yn dweud y bydd pob swyddfa dramor yn gyfrifol am gyflawni yn erbyn eu cylchoedd gwaith unigol. A ydych yn fodlon bod pob swyddfa wedi llwyddo i wneud hynny yn 2022-23?

§    Rydych wedi rhoi copi i ni o’ch adroddiad blynyddol ar swyddfeydd tramor, sy’n disgrifio gweithgarwch ar gyfer y cyfnod 2022-23. Mae’r adroddiad yn rhestru digwyddiadau neu ymweliadau sydd wedi digwydd, ond nid yw’n rhoi gwybodaeth am y canlyniadau a gyflawnwyd o ganlyniad. Sut caiff effeithiolrwydd digwyddiadau a gweithgareddau tramor ei fonitro a'i werthuso?

§    Yn ystod y cyfarfod, cytunoch i roi’r costau diweddaraf ar gyfer ymweliadau rhyngwladol a gynhaliwyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hyd yma.  Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael hyn.

Byddwn yn parhau i ystyried y materion hyn drwy gydol y Chweched Senedd ac yn croesawu eich parodrwydd i ymgysylltu â’r Pwyllgor a’ch gwahoddiad i gyfrannu at bolisi cysylltiadau rhyngwladol yn y dyfodol, fel y trafodwyd.

 

 

 

Edrychwn ymlaen at gael eich ymateb maes o law.

Yn gywir,

Testun, llythyr  Disgrifad a gynhyrchwyd yn awtomatig

Delyth Jewell AS

Cadeirydd y Pwyllgor

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.